DEWIN a DANNY SIONED yn dod i’r brig.
Roedd hi’n noson a hanner yng Nghanolfan Hermon ar nos Wener, Chwefror 14eg wrth i gystadleuaeth Goffa Ail Symudiad gael ei chynnal am y drydedd gwaith gan drefnwyr Fel ‘Na Mai. Braint oedd anrhydeddu a chofio y ddau frawd annwyl, Richard a Wyn eleni eto wrth i fandiau o bell ac agos ddangos eu doniau a’u gallu cerddorol yn yr ymgais o gipio gwobrau anrhydeddus o Dlws Her Trefigin, Tlws Merch Megan i’w gadw a gwobr ariannol o £200 yn ogystal â chyfle i chwarae yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai ar Fai 3ydd. Am y tro cyntaf eleni hefyd, rhoddir cyfle i’r buddugwr berfformio yng Ngŵyl Gwrw, Jin a Cherddoriaeth Crymych Arms, Gŵyl Crug Mawr a Gŵyl Gwobrau Selar yn ogystal â derbyn sesiwn recordio gan Fflach Cymunedol. Roedd safon y chwe band – Iwtopia, Alys a’r Tri Gŵr Noeth, Anhunedd, Chwaer, Yr Hunanol a Dewin yn arbennig iawn a chafodd bob un ganmoliaeth uchel gan y beirniaid. Ond ar ôl crafu pen a phwyso a mesur, dyfarnwyd Dewin, criw o wlad y Wes Wes yn fuddugol gyda’i perfformiad hudolus ym mhob ystyr y gair.
Yn dilyn sylwadau ac awgrymiad beriniaid y gystadleuaeth hon y llynedd, penderfynwyd y byddai hi’n decach cynnal cystadleuaeth ar wahân i artistiaid unigol eleni. Felly dyma sefydlu gwobr newydd er cof am ŵr gweithgar ac adnabyddus yn y gymuned a thu hwnt, sef Kevin Davies a oedd hefyd yn aelod allweddol o dîm Fflach. Yn sgil y penderfyniad hwn, gwnaeth Cwmni Cware ac Olew Trefigin yn garedig iawn ein hysbysu ei bod yn awyddus i goffháu cydweithiwr annwyl a chyfaill mynwesol i’r teulu drwy noddi’r tlysau newydd, gyda’i dewis o Des Davies, ffrind agos a chydweithiwr arall i Kevin i fod yn gyfrifol am gynllunio a gwneud y tlws her a thlws i’w gadw. Yn ogystal â’r tlysau a wnaed yn grefftus o garreg las y Preselau, cyflwynwyd gwobr ariannol o £100 i’r artist buddugol a chyfle i berfformio yn Ngŵyl Fel ‘Na Mai, Gŵyl Gwrw, Jin a Cherddoriaeth Crymych Arms a Gŵyl Crug Mawr a chynnig i gael sesiwn recordio gyda Fflach Cymunedol.
Ymysg yr artistiaid i frwydro am y wobr oedd Rhiannon O’Connor, Iestyn Gwyn Jones, Danny Sioned a Manon Rees Ruault. Unwaith eto profodd y dasg o ddewis enillydd yn heriol i’r beirniaid. Er bod safon y gystadleuaeth hon yn uchel gyda phob un yn haeddiannol o’r wobr, Danny Sioned o Bontarddulais ac yn wreiddiol o ardal y Preselau, gyda’I llais hyfryd a pherfformiad teimladwy a ddaeth i’r brig ac felly’n enillydd cyntaf Gwobr Kevin.
Arweinwyd y noson yn gelfydd a slic gan Cleif Harpwood, cyn aelod a phrif-leisydd y band enwog a phoblogaidd y 70au, Edward H Dafis a chafwyd perfformiad gwych gan Lafant sef rhai o aelodau Gelert, enillydd Gwobr Richard a Wyn 2024. Y beirniaid a fu’n chwysu wrth ddyfarnu ar y noson oedd Dafydd ac Osian Jones, meibion Richard; Einir Dafydd, merch Kevin a Rhodri John, cyn aelod o’r band Dom.
Mae trefnwyr Fel ‘Na Mai yn ddiolchgar iawn i holl noddwyr am eu haelioni a’u cefnogaeth barhaus: Menter Iaith Sir Benfro, Cwmni Cware ac Olew Trefigin, Fflach Cymunedol, Merch Megan, Awen Teifi, Cleif Harpwood, Dafydd Pantrod a’i fand a Gŵyl Crug Mawr.
Llongyfarchiadau gwresog i’r ddau enillydd a diolchiadau lu i weddill y cystadleuwyr sydd hefyd yn haeddu pob clod am eu cyfraniadau cerddorol arbennig. Mae edrych mlân yn eiddgar yn barod i weld y ddau yn perfformio ar un o lwyfannau’r Ŵyl ym mis Mai.