Mynd i'r cynnwys

Gwobrau Coffa Ail Symudiad

Canolfan Hermon

06/02/26 - 19:00

Cystadleuaeth i fandiau ac artistiaid unigol dros Gymru gyfan

Pwy sy'n gallu cystadlu?

Unrhyw fand neu artist sy’n gymharol newydd. Ydych chi’n fand ysgol? Yn ffrindiau coleg? Yn artist unigol sydd eisiau cyrraedd cynulleidfa? Hoffech chi’r cyfle i berfformio mewn rhai o ŵyliau mwyaf Cymru yn 2026 ac ennill gwobr ariannol? Ai chi fydd yr enw nesaf ar un o’r tlysau? Profiadol neu hollol ddi-brofiad, mae’r gystadleuaeth yn agored i chi. Mae Gwobrau Coffa Ail Symudiad yn chwilio am sŵn cyfredol a sŵn i’r dyfodol.

Cystadleuaeth i Fandiau

Gwobr Richard a Wyn

Gwobrau

Tlws Her Trefigin
Sesiwn recordio Fflach Cymunedol
Tlws bach i gadw
Gwobr Ariannol £200
Cyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai (Mai 02)
Cyfle i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

Cystadleuaeth i Artistiaid Unigol

Gwobr Kevin

Gwobrau

Tlws Her Trefigin
Sesiwn recordio Fflach Cymunedol
Tlws bach i gadw
Gwobr Ariannol £100
Cyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai (Mai 02)
Cyfle i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

Rheolau

•⁠ ⁠Yn agored i Gymru Gyfan
•⁠ ⁠Band ac unigolion cymharol newydd
•⁠ ⁠2/3 cân – heb fod mwy na 15 munud
•⁠ ⁠Dim mwy nag 1 ‘cover’
•⁠ ⁠Perfformio yn y Gymraeg yn unig
•⁠ ⁠Dyddiad cau cofrestru – wythnos cyn y gystadleuaeth (Ionawr 30)

Enillwyr 2025 – Dewin a Danny Sioned
Enillwyr 2024 – Gelert
Noddwyr 2026

I gofrestru, llenwch y ffurflen isod